The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust's
Historic Environment Record (HER) aims to provide a comprehensive
catalogue of known archaeological and historical sites, for Southeast
Wales. The records are constantly up-dated and expanded as new
information becomes available.
The information held within the HER is made available to all
interested parties, such as personal or academic researchers, local
history groups, students and school children. Now Archwilio enables information to be accessed by a much wider audience than ever before.
On visit to the Trust the HER can be interrogated through a
geographical information system and is supported by a comprehensive
database and collection of over 7,000 paper files containing more
detailed information on particular sites including excavation and
assessment reports, documents, plans, maps and photographs. A reference
library of archaeological texts and journals is also available.
Education of the public in archaeology is the primary aim of the
Trust for which the Historic Environment Record is a vital resource. The
HER provides a central point of contact for individuals or groups
researching the archaeology of their local area within Southeast Wales.
We often take the digital record 'on the road' to public shows and
events to raise awareness of archaeology and further inform the public
about their heritage.
The Historic Environment Record also plays an integral role in
heritage management, facilitating the management of individual sites as
well as the landscape as a whole.
The record is also used to inform planning and development decisions;
development control officers can provide advice based on the record to
local planning authorities and contractors. This allows the impact upon
the archaeological resource by a development to be adequately assessed.
If archaeological work is undertaken as a result of development, the
information gained from such works is fed back into the HER, thus
enhancing the record for future use.
Visit the GGAT main HER page for more information.
Nod Cofnod Amgylchedd Hanesyddol (CAH) Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg-Gwent
yw darparu catalog cynhwysfawr o safleoedd archaeolegol a hanesyddol
hysbys ar gyfer De-ddwyrain Cymru. Mae'r cofnodion yn cael eu diweddaru
byth a hefyd, ac yn cael eu hehangu wrth i wybodaeth newydd ddod i'r
fei.
Mae'r wybodaeth a ddelir yn y CAH ar gael i bawb sydd â diddordeb,
fel ymchwilwyr personol neu academaidd, grwpiau hanes lleol, myfyrwyr a
phlant ysgol. Mae Archwilio nawr yn galluogi cynulleidfa fwy nag erioed o'r blaen i gyrchu'r wybodaeth.
Trwy ymweld â'r Ymddiriedolaeth, gellir holi CAH trwy system
gwybodaeth ddaearyddol, ac mae cronfa ddata gynhwysfawr a chasgliad o
fwy na 7,000 o ffeiliau papur sy'n cynnwys gwybodaeth fanwl am safleoedd
penodol, gan gynnwys adroddiadau ar waith cloddio ac asesu, dogfennau,
cynlluniau, mapiau a ffotograffau, yn ei gefnogi. Mae llyfrgell
gyfeirio o destunau a chyfnodolion archaeolegol hefyd ar gael.
Addysgu'r cyhoedd mewn archaeoleg yw prif nod yr Ymddiriedolaeth, ac
mae'r Cofnod Amgylchedd Hanesyddol yn adnodd hanfodol ar gyfer hyn.
Mae'r CAH yn darparu man cyswllt canolog ar gyfer unigolion neu grwpiau
sy'n ymchwilio i archaeoleg eu hardal leol yn Ne-ddwyrain Cymru. Byddwn
yn aml yn mynd â'r cofnod digidol 'ar daith' i sioeau a digwyddiadau
cyhoeddus i godi ymwybyddiaeth o archaeoleg a rhoi mwy o wybodaeth i'r
cyhoedd am eu treftadaeth.
Mae'r Cofnod Amgylchedd Hanesyddol hefyd yn chwarae rôl hanfodol mewn
rheoli treftadaeth, hwyluso rheoli safleoedd unigol yn ogystal â'r
dirwedd fel cyfanwaith.
Defnyddir y cofnod hefyd i ddarparu sail ar gyfer penderfyniadau
ynglyn â chynllunio a datblygu; gall swyddogion rheoli datblygiad roi
cyngor ar sail y cofnod i awdurdodau cynllunio lleol a chontractwyr. Mae
hyn yn caniatáu asesu effaith datblygiad ar yr adnodd archaeolegol yn
ddigon manwl. Os ymgymerir â gwaith archaeolegol o ganlyniad i
ddatblygiad, mae'r wybodaeth a ddaw i law o waith o'r fath yn cael ei
bwydo'n ôl i'r CAH, gan ehangu'r cofnod i'w defnyddio yn y dyfodol.
Ewch y tudlaen CAH am mwy gwybodaeth.
No comments:
Post a Comment
Please contact us with any comments or queries: